Mae
Christine Dyer yn arbenigo ym mhob agwedd o gyfraith Teulu ac mae ganddi dros
30 mlynedd o brofiad ddelio â theuluoedd sy'n gwahanu.
Mae
hi'n cynghori ar nifer eang o faterion teuluol gan gynnwys: -
- Cytundebau Ysgariad a Gwahanu
- Materion ariannol sy'n codi o ysgariad a
gwahanu cyplau sy'n cyd-fyw;
- Hawliadau ariannol gan rieni am blant;
- Materion magu plant yn ymwneud â chyswllt a
phreswylio plant; a
- Heregipio plentyn ac adleoli plentyn o fewn a
thu allan i'r awdurdodaeth.
- Achosion gofal
- Meddyginiaethau brys a cham-drin domestig
- Cytundebau cyn ac ar ôl priodi;
- Cytundebau cyd-fyw
- Datrys anghydfod teuluol gan
gynnwys cyfryngu ac ymarfer cydweithredol.
Mae
Christine yn aelod o ‘Resolution First for Family Law’, sefydliad cyfraith
teulu cenedlaethol gyda 6,500 o aelodau sy’n naill ai yn gyfreithiwr neu’n
gweithwyr profesiynol arall sy'n credu mewn dull adeiladol sydd yn ymdrin â
materion cyfraith teulu, heb gwrthdrawiad.
Mae
Christine wedi ymrwymo i wrando ar gleientiaid ac i'w helpu i ddod o hyd i'r
broses orau i weddu i'w hanghenion penodol ac i gyflawni'r canlyniad gorau
posibl iddynt hwy a'u teulu. Gall hyn gynnwys trafod rhwng cyfreithwyr,
ymgyfreitha llys teuluol, cyfryngu, ymarfer cydweithredol neu gyflafareddu.
Gan
gredu y dylai gwahanu fod yn broses barchus a bod teuluoedd yn gwneud yn well
os gellir setlo materion yn gyflym ac yn gyfeillgar, hyfforddodd Christine fel
cyfryngwr gyda ‘Resolution’ ym 1996. Enillodd aelodaeth o ‘Banel Cyfryngu Teulu
Cymdeithas y Gyfraith’ yn 2002 ac mae hefyd yn gyfryngwr achrededig gyda’r
‘Cyngor Cyfryngu Teuluol.’ Mae hi wedi ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol mewn
perthynas â chyfryngu cynhwysol plant gyda Lisa Parkinson a Bill Hewlett.
Yn 2006
roedd Christine ymhlith y cyfreithwyr cyntaf i hyfforddi mewn ymarfer gyfraith
gydweithredol yng Nghymru, ac mae'n rhan o grŵp o gyfreithwyr cydweithredol
Cymreig www.collaborativelawwales.co.uk
Mae
Christine yn arbenigwr datrysiad achrededig ac mae ganddi arbenigedd ychwanegol
mewn achosion cam-drin domestig ac achosion plant. Mae hi'n aelod o'r panel
‘Cyfraith Teulu’ a chyn hynny roedd hi'n llywodraethwr yn Ysgol Preseli; gyda
chyfrifoldeb am ofal bugeiliol.
Cafodd
Christine ei geni yn Sir Benfro ac mae'n byw ma o hyd gyda'i gŵr. Mae hi'n
ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ac yn mwynhau darllen, nofio, sgïo, cerdded
llwybr arfordirol Sir Benfro, coginio a bwyta bwyd da, a threulio amser gyda'i
theulu.
Lleolir yn Aberteifi