Amdanom Ni Rydym yn gwmni sydd wedi'i sefydlu
ers tro sydd wedi darparu ystod eang o wasanaethau cyfreithiol ers dros 150 o
flynyddoedd.
Sefydlwyd cwmni W Evans George &
Sons ym 1864 gan William Evans George ac ymunodd ei feibion John Edward Morgan
George a David Thomas George ag ef yn y practis. Bu farw William ym 1904 a bu
farw David Thomas George ym 1927. Daeth Geoffrey Edward Evans George, mab John
Edward Morgan George, yn brentis i'w dad a chymhwysodd fel cyfreithiwr ar
ddechrau’r 1930au.
Ym 1934, prynodd Geoffrey gwmni
George Davies & Evans o Aberteifi ac aeth i bartneriaeth â Huw Lewis Evans
a pharhaodd y ddau gwmni fel endidau ar wahân hyd at farwolaeth John Edward
Morgan George ym 1959.
Ym 1962, ymunodd Jeremy Evans
George, mab Geoffrey Edward Evans George, â'r practis fel y bedwaredd
genhedlaeth o'r teulu George i ymarfer y gyfraith yng Nghastell Newydd Emlyn.
Sefydlwyd practis George Davies &
Evans o Aberteifi gan William Griffith George o Rhydgarnwen, Bridell. Parhaodd
ei fab, John Picton Meredith George â'r practis dan yr enw George & Sons
hyd at ei farwolaeth ym 1934. Ar ryw adeg cyn ei farwolaeth, caffaelwyd y cwmni
gan ei fab-yng-nghyfraith Mr E B Evans a chaffaelodd Geoffrey George y cwmni
gan naill ai Mr E B Evans neu ei gynrychiolwyr personol.
Roedd William Griffith George o
Rhydgarnwen yn dod o gangen arall o deulu'r George ac felly, ym 1934, unwyd y
ddau gwmni o dan berchnogaeth Geoffrey George a fu farw ym 1990. Parhaodd y
ddau gwmni tan yn ddiweddar iawn i ymarfer o dan eu priod deitlau sef W Evans
George & Sons a George Davies & Evans. Bellach, gelwir y ddau gwmni yn
George Davies & Evans.
Mae'r teulu George wedi ymarfer y
gyfraith yn y gornel hon o Gymru ers dros 150 o flynyddoedd a hyd nes iddo
ymddeol yn ddiweddar, Jeremy Evans George oedd yr olaf o'r enw hwnnw i ymarfer,
ac yntau'n or-ŵyr i William Evans George a ddechreuodd yng Nghastell Newydd
Emlyn ym 1864.
Ar 1af Hydref 2017, cawsom ewyllys da'r cwmni sefydledig o'r enw W. J. Williams
& Davies. Roedd y cwmni (W. J. Williams & Davies) wedi bod yn
gwasanaethu Bro Aberteifi a'r ardal gyfagos ers dros 100 mlynedd. Byddodd cyfreithwyr
John Dyer a Christine Dyer yn parhau i wneud hynny fel gweithwyr George Davies
& Evans tan eu ymddeoliad.
Gwasanaethau Gallwch chi ddibynnu ar ein tîm
profiadol i ddiwallu'ch holl anghenion o ran ymarferion cyfreithiol preifat a
masnachol. Gyda blynyddoedd o brofiad a chyfoeth o wybodaeth, gallwn ddarparu
gwasanaethau dibynadwy i chi a thîm y gallwch chi ymddiried ynddo.
Mae ein tîm yn defnyddio eu sgiliau i
gynnig ystod o wasanaethau i'w cleientiaid gan gynnwys:
Materion cyfraith teulu
Cyngor
masnachol Arwyddo
Ewyllysiau Hawliadau
profiant Cynllunio
treth Ymgyfreitha
sifil Anghydfodau
contract Cytundebau
les Cytundebau
tenantiaeth Trawsgludo Gallwn gynnig ymweliadau cartref â
phob un o'n cleientiaid os nad ydynt yn gallu dod i'n swyddfeydd. Trefnir y
rhain o gwmpas eich amserlen fel na fydd yn rhaid i chi darfu ar eich trefn arferol.
Ffoniwch ni
I glywed mwy am ein
gwasanaethau a sut y gallwn gynorthwyo gyda'ch materion cyfreithiol, ffoniwch
ein tîm yn Aberteifi ar 01239 612 308 neu ein tîm yng Nghastell Newydd ar 01239
710228 . Bydd ein cyngor cyfreithiol arbenigol bob amser yn eich rhoi ar y
llwybr cywir i gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnoch.