Ymunodd Richard â'r Practis ym mis
Ionawr 2015.
Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth
ym 1984, mynychodd Richard Goleg y Gyfraith Guilford. Cwblhaodd ei erthyglau yn
Llanelli a derbyniwyd ef fel Cyfreithiwr ym mis Mai 1988.
Fe symudodd Richard i Gastell Newydd
Emlyn ym 1990 a bu’n gweithio fel Cyfreithiwr Cynorthwyol cyn sefydlu ei
Bractis ei hun ym 1995 gan ennill ugain mlynedd o brofiad gwerthfawr mewn
ymarfer cyffredinol cyn ymuno â George Davies ac Evans.
Mae ei feysydd gwaith yn cynnwys
trawsgludo, preswyl a masnachol, ewyllysiau, profiant a gweinyddu ystadau,
landlord a thenant, atwrneiaeth a gwaith y llys gwarchod.
Mae’n frwd dros Rygbi Cymru a
chwaraeon eraill, ac mae ei ddiddordebau hefyd yn cynnwys teithio, beicio a
chadw'n heini.
Yn frodorol o Orllewin Cymru, mae’n
siarad Cymraeg, yn briod â Heulwen ac yn byw yn Ardal Castell Newydd Emlyn.
Lleolir
yn Aberteifi